Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymchwiliad i'r achosion o’r Frech Goch : Tystiolaeth Ysgrifenedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

 

Cefndir

Ar ddydd Mercher, 27 Mawrth, 2013, derbyniodd yr Awdurdod, yn ogystal â Chynghorau Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, wahoddiad brys i anfon cynrychiolwyr i gyfarfod asiantaeth ar y cyd gan fod pryder yn codi ynglŷn â nifer yr achosion o'r Frech Goch yr adroddwyd amdanynt yn ardaloedd Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.

 

Cymerodd Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Castell-nedd Port Talbot y penderfyniad fod angen i gynrychiolwr fynychu'r cyfarfod o ganlyniad i'r pryder a fynegwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol.  Fe fynychais yr holl gyfarfodydd yn ystod yr ymgyrch i gynrychioli'r Cyngor Bwrdeistref Sirol.

 

Rhoddwyd statws Grŵp Arian i'r cyfarfod fel rhan o weithdrefnau cynllunio ar gyfer/ymateb i argyfyngau PABM.  Daeth difrifoldeb y broblem a oedd yn wynebu'r gweithwyr iechyd i'r amlwg yn fuan iawn.

 

Roedd y ffigurau a gyflwynwyd yn amlinellu fod 7,500 o blant mewn perygl o gael yr afiechyd yn ardal iechyd PABM, 139 o ysgolion yn adrodd am o leiaf un achos, cadarnhad bod 500 o bobl eisoes â'r Frech Goch a 51 o bobl yn yr ysbyty.  Hysbyswyd aelodau'r Grŵp Arian, er bod y cyfryngau yn adrodd am y cynnydd yn yr achosion o'r Frech Goch, nid oedd yn cael effaith ddigon arwyddocaol ar bobl i dderbyn brechiad.

 

Rhannwyd pryder ymhlith y grŵp ynglŷn â Gwyliau'r Pasg lle byddai plant o un ysgol/cymuned yn cymysgu â phlant o rai eraill ac roedd hyn yn fygythiad mawr lle gallai'r afiechyd ymledu ymhellach.

 

Dyma'r gweithrediadau y cytunwyd arnynt yn y Cyfarfod Grŵp Arian cyntaf:

  1. Creu tri thîm ardal pwrpasol i ymdrin â phrif ardaloedd daearyddol PABM, a'u rôl byddai cyd-drefnu ymateb ar gyfer pob ardal;
  2. Lansio ymgyrch gyhoeddusrwydd newydd gan ddefnyddio pob dull posib o gyfathrebu gan amlygu'r neges i rieni a phlant am beryglon yr afiechyd a'r angen am frechiad.
  3. Sefydlu sesiynau galw heibio ar benwythnosau ym mhedair prif ysbyty'r rhanbarth;
  4. Trefnu rhaglen imiwneiddio ddwys mewn ysgolion i dargedu pob disgybl mewn ysgol uwchradd ac ysgol arbennig ar unwaith ar ôl Gwyliau'r Pasg.

 

O ystyried pwyntiau 1-3, rwy'n siŵr y byddai'r rhain wedi'u cynnwys mewn man arall yn yr ymchwiliad gan weithwyr iechyd PABM, felly, byddaf yn canolbwyntio fy nhystiolaeth ar bwynt 4: Y Rhaglen Imiwneiddio mewn Ysgolion.

 

Ffactorau a arweiniodd at yr achosion presennol o'r frech goch

Mae'n well bod gweithwyr PABM yn darparu'r wybodaeth ynglŷn â'r materion a arweiniodd at yr achosion o'r frech goch; fodd bynnag, mae'n bosib mai'r ffactorau a greodd y broblem ar y pryd oedd diffyg dealltwriaeth gyffredinol y cyhoedd o ddifrifoldeb y Frech Goch, neu hyd yn oed diffyg cydnabod hyd a lled y broblem (neu'r ddau). Cefnogir y syniad personol gor-syml hwn gan sgwrs gyda Phennaeth ysgol a gymerodd ran mewn rownd flaenorol o'r rhaglen imiwneiddio a gynhaliwyd cyn y Pasg, a chyn i'r ymgyrch gyfryngau gynyddu ymwybyddiaeth pellach.  Ysgrifennwyd at rieni yr ysgol honno i amlygu'r nifer cynyddol o achosion o'r Frech Goch yn yr ardal ac i gynnig brechiadau yn yr ysgol, fodd bynnag, roedd y nifer a gafodd y brechiadau'n isel iawn.  Esboniodd y Pennaeth, pan y gofynnwyd i'r rhieni pam y gwnaeth nifer mor isel dderbyn y brechiad, mai difaterwch y rhieni oedd y prif achos.  Y gyfradd ragdueddiad ar ôl y sesiwn frechu hon oedd 80% o ddisgyblion yn unig; roedd hyn yn llawer is na chanlyniadau ysgolion uwchradd eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot a gymerodd ran yn y Rhaglen Imiwneiddio mewn Ysgolion a gyflawnodd 95% a mwy.  Mae cyfathrebu a gwaith pellach gyda rhieni'r ysgol uwchradd hon, erbyn hyn, wedi codi'r gyfradd ragdueddiad  bellach i ychydig dros 90%.

 

Camau a gymerwyd gan weithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, mewn ymateb i'r achosion

Yn syth ar ôl sefydlu'r Grŵp Ymateb Arian, roedd hi'n amlwg bod gwir ystyr i ymagwedd bartneriaeth ac nid "gwasanaeth trafod" yn unig, o ganlyniad i gyfranogiad asiantaethau eraill.  Roedd ymrwymiad a chyfranogiad awdurdodau lleol a chynrychiolwyr y trydydd sector yn hanfodol er mwyn i'r cyfarwyddyd cytunedig gyrraedd cynulleidfa darged eang.  Roedd gan bob un rôl a gwnaeth pob un gyfrannu'n effeithiol gan ddod â'u profiadau proffesiynol i'r bwrdd.

 

Dr Sara Hayes, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus PABM, oedd cadeirydd y grŵp gyda chefnogaeth Mrs Karen Jones, Swyddog Cynllunio ar gyfer Argyfyngau PABM.  Roedd eitemau cyfredol wedi'u cynnwys ar bob agenda a oedd yn ymwneud â rhaglen yr ysgolion ac ymateb yr awdurdod lleol.  Rhoddwyd llais cyfartal i'r awdurdod lleol ac roedd ymdeimlad o barch y naill at y llall.  Anfonwyd copïau o'r cofnodion, adroddiadau, diweddariadau a ffeithlenni yn electronig i'r holl bartneriaid ar yr un pryd ag yr oeddent yn cael eu dosbarthu i swyddogion mewnol PABM.  Roedd hyn yn sicrhau, er bod angen i weithwyr proffesiynol, nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, ddysgu'n gyflym iawn, roedd pob cyfranogwr y Grŵp Arian yn ymwybodol o'r prif faterion a'r ymateb wrth iddo ddatblygu mewn amser go iawn.

 

Datblygodd ymagwedd "gallu gwneud" drwy gael y bobl gywir yn eu lle o fewn y Grŵp Arian, heb unrhyw gyfeiriad at strwythurau, hierarchaeth na gwthio am safle.  Roedd pob sefydliad yn y grŵp yn gyfartal o ran gwerth a safle.  Gweithiodd partneriaid/asiantaethau o gefndiroedd gwahanol yn dda iawn gyda'i gilydd ar gyfer yr un nod.

 

Gweithiodd Tîm Cyfathrebu Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar y cyd â Thîm Cyfathrebu PABM i hyrwyddo'r sesiynau galw heibio yn yr ysbyty ar y penwythnosau, y rhaglenni imiwneiddio unigol mewn ysgolion a'r neges gyffredinol yn annog dinasyddion Castell-nedd Port Talbot i dderbyn brechiad yr MMR.  Sicrhaodd y ddau dîm bod cyflenwad parhaol o ddatganiadau i'r wasg yn rhoi'r newyddion diweddaraf ac i hyrwyddo'r angen am frechiadau yn gyson yn y wasg er mwyn cadw'r broblem ym meddyliau pobl. 

 

Rôl Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Roedd Arweinyddiaeth a Phrif Weithredwr y Cyngor ac Uwch Reolwyr yr Adran Addysg yn derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson trwy gydol y cyfnod dwys hwn.  Roedd y gefnogaeth gan y Prif Weithredwr yn annogol iawn gydag arweiniad clir iawn y byddai'r Cyngor yn cyfrannu'n llawn ac yn darparu pa gymorth y gallai i'r PABM i gyflawni'r heriau enfawr o'u blaen.  Roedd y cymorth a roddodd y Cyngor i'r Bwrdd Iechyd yn cynnwys:

 

Rhaglen Imiwneiddio mewn Ysgolion, Castell-nedd Port Talbot

Cytunwyd yn y Grŵp Arian cyntaf gan canolbwynt y clefyd yn rhanbarth Abertawe, dylai'r Rhaglen Imiwneiddio mewn Ysgolion ddechrau yn Abertawe yn ogystal ag yn ysgolion Castell-nedd Port Talbot sy'n denu disgyblion o ar draws y ffin.  Cytunwyd mai'r ystod oedran targed fyddai pob disgybl ysgol uwchradd a'r rhai oedd yn ddiamddiffyn, megis disgyblion ysgolion arbennig.

 

Gwnaeth y Grŵp Arian gwrdd sawl gwaith yn ystod Gwyliau'r Pasg gan drefnu a pharatoi amserlen ar gyfer ysgolion i sicrhau fod cynifer o ddisgyblion â phosib yn cael eu targedi mewn cyfnod mor fyr â phosib.

 

Cysylltwyd â phenaethiaid yr ysgolion hynny a oedd yn rhan o wythnos 1 yr ymgyrch gartref yn ystod yr hanner tymor er mwyn cael caniatâd i gynnwys yr ysgol ac i ddechrau trefnu pethau er mwyn sicrhau llwyddiant y rhaglen a chyfradd brechiadau uchel.  Dylid canmol y Penaethiaid wnaeth ymateb yn gefnogol iawn.  Cysylltwyd â Phenaethiaid eraill ar raglen dreigl wrth gyd-drefnu'r ysgolion hynny a oedd yn rhan o wythnos 2 ac yn eu tro, wythnos 3 yr ymgyrch. 

 

Yn ogystal â chyfathrebu â'r Penaethiaid hynny a oedd yn rhan o'r rhaglen ysgolion, cysylltwyd â Phenaethiaid, Cadeiryddion, Is-gadeiryddion a Llywodraethwyr eraill ysgolion Castell-nedd Port Talbot yn gyson gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am yr achosion, rhoi cyngor, ffeithlenni, cylchlythyron a chwestiynau cyffredin.

 

Gofynnwyd i ysgolion ddarparu copïau o'u logos a llun o'r Pennaeth er mwyn creu gwe-dudalen benodol ar gyfer pob ysgol er mwyn personoli'r ymgyrch i rieni a disgyblion.  Trefnodd ysgolion i fanylion penodol eu hymglymiad â'r rhaglen yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol am y Frech Goch i gael eu rhoi ar eu gwefan eu hunain ac anfon neges destun at rieni trwy system neges destun yr ysgol.

 

Anfonwyd llythyron personol unigol at bob rhiant drwy'r awdurdod lleol a oedd yn cynnwys ffurflen ganiatâd.  Cafodd y ffurflenni eu holrhain ar gyfer ymatebion i weld a rhoddwyd, neu a wrthodwyd caniatâd, neu hysbysiad fod y disgybl wedi derbyn brechiad mewn man arall, neu fod y disgybl wedi gadael yr ysgol.  Rhoddwyd yr wybodaeth hon i PABM i gael ei dosbarthu i wasanaethau gwahanol gan gynnwys y Prif Nyrs Ysgol, y Tîm Rheoli Meddyginiaeth ac Uned Ddata Iechyd Plant i gyfrifo faint o nyrsys a brechiadau fyddai eu hangen ym mhob sesiwn.  Pan na ddychwelwyd ffurflenni, cysylltodd staff yn uniongyrchol â rhieni unigol i ofyn a dderbyniwyd y llythyron ac a oeddent yn bwriadu rhoi caniatâd.  Yn y rhan fwyaf o achosion rhoddwyd caniatâd.

 

Cydlynodd yr Awdurdod Lleol â phob un o'i hysgolion ar ran PABM i sicrhau bod ystafelloedd addas ar gael i roi'r brechiadau, gosod a chysylltu oergelloedd, derbyn llif y disgyblion trwy gydol y dydd, cynnig y brechiad i aelodau o staff a oedd am dderbyn yr MMR ac anfon negeseuon testun atgoffa a hysbysiadau i rieni.

 

Gyda diddordeb cynyddol gan y wasg genedlaethol a dechrau'r rhaglen imiwneiddio mewn ysgolion gofynnodd y cyfryngau am fynediad ar sawl adeg i ysgolion Castell-nedd Port Talbot er mwyn adrodd am yr ymgyrch.  Darparwyd sylw cenedlaethol gan Ysgol Gyfun Cwmtawe ym Mhontardawe ac Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin yng Nghastell-nedd.  Ymddangosodd erthyglau yn y Times, Telegraph a nifer o bapurau cenedlaethol prif ffrwd dyddiol eraill; ffilmiwyd ar gyfer BBC Wales, BBC News, SKY, ITV a Newsnight a chafwyd sylw hefyd ar radio lleol a chenedlaethol gan gynnwys Radio 5 Live.  Gwnaeth Tîm Cyfathrebu'r Cyngor gydlynu'r ymateb hwn ochr yn ochr â Thîm Cyfathrebu PABM.

 

Gwnaeth Tîm Cyfathrebu Castell-nedd Port Talbot ganfod fod y cyn chwaraewr rygbi cenedlaethol, Christian Loader, athro chwaraeon yn Dŵr-y-Felin, yn derbyn ei frechiad yn yr ysgol a defnyddiwyd y cyfle i ehangu'r sylw.  O ganlyniad dywedodd Mr Loader ei fod wedi colli ychydig o'i glyw o ganlyniad i'r Frech Goch pan oedd yn blentyn, ac arweiniodd hyn at hyd yn oed mwy o sylw cenedlaethol yn y DU i gadarnhau'r angen am frechiad MMR.

 

Gwnaeth cyfanswm o 13 ysgol uwchradd ac arbennig yng Nghastell-nedd Port Talbot gymryd rhan yn y rhaglen imiwneiddio mewn ychydig dros pythefnos.  Targedwyd bron 1600 o ddisgyblion a oedd mewn perygl gyda dros 700 o ddisgyblion a staff yn cael eu himiwneiddio.  Pan gyfrifwyd y data a chymerwyd y rhaglen ysgolion a'r disgyblion a aeth i'r sesiynau galw heibio mewn ysbyty neu'r Meddyg Teulu i ystyriaeth, dim ond un ysgol arbennig yn y Fwrdeistref Sirol oedd â chyfradd imiwneiddio a oedd yn is na 95%.  Cyflawnodd un ysgol gyfradd imiwneiddio 100% a chyflawnodd un arall 99%.  Fel ymateb partneriaeth, roedd hwn yn wych.

 

Yn ogystal â'r Rhaglen Imiwneiddio mewn Ysgolion, cysylltodd swyddogion y Cyngor yn uniongyrchol â'r holl deuluoedd sy'n derbyn eu haddysg gartref, gan roi'r wybodaeth iddynt am yr achosion ac annog y rhai hynny nad oeddent wedi derbyn y brechiad i dderbyn yr MMR.  Roedd cydweithwyr yn y Gwasanaeth Ieuenctid, Gwasanaethau Plant a Llyfrgelloedd hefyd yn arddangos gwybodaeth yn gyhoeddus.

 

Gwersi y gellid eu dysgu er mwyn rhwystro achosion yn y dyfodol

Mae'n amlwg bod gan Awdurdodau Lleol sy'n gwasanaethu cymunedau lleol rôl allweddol ochr yn ochr â'r Byrddau Iechyd wrth geisio cael gwared ar rai o'r afiechydon hyn a ddylai, gyda'r brechiadau modern hyn fod yn afiechydon sy'n perthyn i'r gorffennol.  Mae pawb sy'n ymwneud â'r Grŵp Ymateb Arian yn cytuno mai cyfathrebu uniongyrchol ac effeithiol oedd llwyddiant yr ymgyrch hon ac, os yw'r meddyginiaethau a'r brechiadau modern yn eistedd mewn storfeydd oer heb cael eu defnyddio, yna rhaid cael mai cyfathrebu beiddgar er mwyn atal achosion yn y dyfodol.

 

Materion da a rhai o'r gwersi allweddol a ddysgwyd o'r achosion presennol:

 

Mae'r her yn parhau i bob sefydliad, beth bynnag eu sector neu lefel, os ydynt yn cyflwyno'n genedlaethol neu'n lleol i ennyn a chynnal digon o ddiddordeb mewn materion iechyd, felly nid yn unig yr MMR sydd ym meddyliau pobl, ond afiechydon peryglus tebyg hefyd.

 

 

 

John Burge

Prif Swyddog Llywodraethu Ysgolion

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot